Stay in touch with the latest news from AIM and get information on sector grants, jobs and events with our free fortnightly E-News.
January 2021 trustee newsletter – Welsh translation
Cod Llywodraethu Elusennau wedi ei Ddiweddaru
Lansiwyd Cod Llywodraethu Elusennau newydd ym mis Rhagfyr – gyda diweddariadau sylweddol i’r egwyddorion o Amrywiaeth ac Uniondeb yn y Cod.
Dylai Byrddau o Ymddiriedolwyr geisio cyflawni mwy na chydymffurfiaeth gyfreithiol ac mae’r Codau Llywodraethu Elusen yn “goleuo’r ffordd”. Mae un i’r Alban, un arall i Ogledd Iwerddon a thrydydd un i Gymru a Lloegr. Maent yn sefydlu egwyddorion o arfer da ac yn yn cynnig canllaw gwerthfawr i Fyrddau ar sut i wella eu harfer llywodraethu.
Mae gan y cod newydd Egwyddor newydd ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) sydd yn amlinellu camau ymarferol i’w cymryd i ateb heriau amrywiaeth:
- Asesu dealltwriaeth o systemau a diwylliant
- Gosod cynlluniau a thargedau sy’n benodol i’w cyd-destun ac yn realistig
- Gweithredu a monitro perfformiad
- Cyhoeddi gwybodaeth ar berfformiad a dysgu
Mae’r egwyddor o Uniondeb wedi ei diweddaru er mwyn pwysleisio pwysigrwydd gwerthoedd, moeseg a diwylliant elusen. Gofynnir wrth Ymddiriedolwyr am:
- Gynnal gwerthoedd yr elusen
- Sicrhau’r hawl i fod yn ddiogel a deall eu cyfrifoldebau diogelu
- Nodi, delio gyda a chadw cofnod o ddiddordeb a theyrngarwch
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu rhagor am sut y gall eich bwrdd weithredu i ateb heriau amrywiaeth yna dylech gyfranogi yn ein gweithdy ‘Hallmarks at Home’ ar Daclo Anghydraddoldeb. Mae rhagor o wybodaeth ar gael isod.
Cliciwch yma i ddarllen y cod newydd>>
Cyhoeddiad newydd AIM ar Lywodraethu Llwyddiannus o Amgueddfeydd
Mae AIM yn ddiweddar wedi cyhoeddi canllaw newydd ar Lywodraethu Llwyddiannus o Amgueddfeydd.
Mae’r canllaw wedi ei ysgrifennu gan Hilary Barnard a Ruth Lesirge, dwy o ymgynghorwyr Byrddau sy’n Ffynnu AIM, sydd â phrofiad eang o lywodraethu elusennau a chefnogi amgueddfeydd. Mae’r canllaw yn darparu cyflwyniad i gydymffurfiaeth gyfreithiol a rheoleiddiol ac mae’n gyflwyniad hefyd i adeiladu arfer llywodraethu gwell. Mae HBRL yn cynnig canllaw ymarferol mewn meysydd allweddol gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr, rheoli cyfarfodydd bwrdd, gweithio gyda staff a gwirfoddolwyr, a chynllunio ar gyfer recriwtio ac olyniaeth. Mae’n helpu hefyd i gyfeirio adnoddau pwysig ar gyfer ymddiriedolwyr ac yn darparu enghreifftiau o ddogfennau allweddol.
Cliciwch yma i ddarllen y Canllaw Llwyddiant newydd>>
‘Hallmarks at Home’ i Ymddiriedolwyr
Mae gweithdai arlein ‘Hallmarks at Home’ AIM yn gyfle i ddysgu rhagor am bwnc neu faes penodol o arfer amgueddfeydd. Mae’r gweithdai yn cael eu harwain gan un o’n ymgynghorwyr profiadol iawn ond maent hefyd yn gyfle i rhannu profiadau a dysgu gan aelodau eraill o AIM.
Mae sesiynau ar y gorwel a fydd yn arbennig o ddefnyddiol i ymddiriedolwyr yn cynnwys:
- Llywodraethu Ymarferol 10yb – 11.30yb ar Ddydd Mawrth 9 Chwefror
- Taclo Anghydraddoldebau 11yb – 12.30yh ar Ddydd Mawrth 16 Chwefror
Swyddi gwag i Ymddiriedolwyr
Arolwg Ymddiriedolwyr
Rydym yn frwd i ddeall anghenion ymddiriedolwyr amgueddfeydd yn well, ac felly i sicrhau bod cymorth AIM yn berthnasol ac yn ddefnyddiol. Byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn cymryd ychydig o funudau i gwblhau ein harolwg ymddiriedolwyr; mae’n gwbl ddienw a bydd eich gwybodaeth yn werthfawr iawn. Cliciwch yma i gwblhau’r arolwg>>